Chwilio Venue Cymraeg DDEV

Theatre2

Ein hawditoriwm theatr â 1450 o seddi yw’r lle delfrydol i gynnal cynadleddau mawr, seremonïau ffurfiol, cyngherddau a chynyrchiadau theatr.   

Mae gwaith ailwampio gwerth miliynau o bunnoedd ar y gweill yn y theatr y 2027, a fydd yn cynnwys gwelliannau i’r seddi.  

Fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn theatr sy’n derbyn cynyrchiadau, mae gan y gofod isadeiledd technegol rhagorol ac mae’r system oleuadau a sain wedi cael ei huwchraddio yn ddiweddar.   

Gyda phrofiad helaeth o gefnogi nid yn unig cynadleddau a seremonïau gwobrwyo, ond hefyd rhai o gynyrchiadau theatr teithiol mwyaf y West End, gall Tîm Gweithrediadau Technegol mewnol Venue Cymru ddarparu’r holl arbenigedd a chymorth sydd ei angen arnoch i ddarparu digwyddiad llyfn a phroffesiynol. 

Mae cyfleusterau cynhyrchu digwyddiadau ar gael, gan gynnwys pecynnau clyweled cynhadledd.