Sawl ffordd wahanol!
Ar-lein: Pan fyddwch wedi pori drwy ein sioeau ac wedi dewis, cliciwch ar ‘Archebwch Nawr’. Gallwch ddewis eich seddi a bydd eich tocynnau’n cael eu hanfon i’ch ffôn neu liniadur, a gallwch eu hargraffu gartref neu eu lawrlwytho i’ch ffôn i’w dangos wrth y drws.
Dros y Ffôn: Ffoniwch 01492 872000 a bydd aelod o staff yn ein Swyddfa Docynnau’n hapus i’ch helpu.
Yn Bersonol: Byddwch yn canfod y Swyddfa Docynnau yn y Brif Fynedfa ger Caffi Caitlin ar ochr orllewinol adeilad Venue Cymru ar Bromenâd Llandudno.
Grwpiau: Cysylltwch â’n Gweinyddwr Grwpiau os oes gennych grŵp o 10 neu ragor, a manteisio ar ein gostyngiad Trefnydd Grwpiau! Ein llinell ffôn arbennig ar gyfer grwpiau 01492 872001 / grwpiau@venuecymru.co.uk
Ailwerthu drwy Venue Cymru / Theatr Colwyn yw’r unig le cyfreithlon i ailwerthu tocynnau rydych wedi’u prynu gennym ni. Sylwer: Os byddwch yn prynu tocynnau ailwerthu drwy unrhyw wefan arall, mae’n bosibl na fyddant yn ddilys a gellir gwrthod mynediad i’r safle.