Chwilio Venue Cymraeg DDEV

Talebau anrheg

Rhowch anrheg sy’n hyblyg, ystyrlon, a chofiadwy – gadewch iddyn nhw ddewis eu noson berffaith nesaf gyda Thocyn Rhodd Venue Cymru!

Pa un a ydynt yn mwynhau mynd i’r theatr, yn hoffi cerddoriaeth, comedi, neu’n mwynhau mynd allan am noson arbennig, mae Tocyn Rhodd Venue Cymru yn eu galluogi i fwynhau’r profiad sydd orau ganddyn nhw.

Mae Tocyn Rhodd yn anrheg berffaith ar gyfer sawl achlysur: Penblwyddi, Nadolig, Sul y Mamau, Sul y Tadau, Penblwyddi Priodas, rhoddion diolch, anrhegion ymddeol a sawl achlysur arbennig arall.

Mae ein Tocynnau Rhodd yn hawdd eu prynu, a gallant fod yn eich mewnflwch o fewn munudau! Mae amrywiaeth o werthoedd ar gael, a gellir eu hanfon dros e-bost neu drwy’r post atoch chi neu’r sawl sy’n cael y tocyn gennych chi.

Gellir defnyddio Tocynnau Rhodd gydag unrhyw un o’r cannoedd o sioeau neu berfformiadau sy’n dod i Venue Cymru, sy’n golygu bod yna bob amser rywbeth cyffrous i’w ddewis.

Telerau ac Amodau
  • Ar hyn o bryd, gellir defnyddio Tocynnau Rhodd wrth gownter y Swyddfa Docynnau, dros y ffôn ac wrth archebu ar-lein.
  • Os yw gwerth y Tocyn Rhodd yn fwy na chost y perfformiad, bydd y gweddill yn aros ar y tocyn a gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol.
  • Dim ond wrth brynu tocynnau y gellir defnyddio Tocynnau rhodd – ni ellir eu defnyddio ym mar na bwyty’r lleoliad.
  • Nid yw Venue Cymru yn gwerthu nac yn derbyn talebau na thocynnau anrheg y Theatr Genedlaethol.
  • Gellwch ganslo Tocynnau Rhodd o fewn 14 diwrnod o’u prynu, os nad ydynt wedi eu defnyddio.
  • Nid oes modd cael Tocynnau Rhodd yn lle rhai sydd wedi eu colli neu eu dwyn.
  • Ni ellir defnyddio Tocynnau Rhodd ar gyfer archebion a wnaed eisoes, i brynu nwyddau eraill nac i’w cyfnewid am arian parod.
  • Postio adeg y Nadolig: Ni allwn roi sicrwydd ynglŷn â dosbarthu tocynnau sioeau neu Docynnau Rhodd wedi eu hargraffu ar ôl 15 Rhagfyr. Bydd e-docynnau a Thocynnau Rhodd Ar-lein ar gael hyd at y Nadolig ei hun!
LA VOIX 2027 1920px x 1080px 2027 Arena2 MM DL 2026013 Llandudno Digital1920x1080 No Dates