Gyrfaoedd a Swyddi
Mae dilyn gyrfa yn Venue Cymru’n gyfle i fod yn rhan o un o’r canolfannau diwylliant a digwyddiadau mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Rhwng darparu adloniant gyda’r gorau yn y byd a rhaglenni cymunedol ysbrydoledig a hwyluso cynadleddau, lletygarwch a phrofiadau ymwelwyr, mae pob swydd yn chwarae rhan hollbwysig mewn creu profiadau bythgofiadwy i’n hymwelwyr.
P’un a ydych yn cychwyn ym myd gwaith neu’n chwilio am eich her nesaf, mae Venue Cymru’n rhoi cyfle ichi weithio mewn timau brwdfrydig mewn amgylchedd prysur sy’n dod â boddhad mawr.