Gwefru Cerbydau Trydan
Gwefru Cerbydau Trydan yn Venue Cymru
Mae Venue Cymru o fewn 10 munud o bob prif gyswllt cludiant. Gallwch ddod o hyd i ni drwy chwilio am ein cod post LL30 1BB
Mae Venue Cymru 4 milltir i ffwrdd o’r A55 ac yn cymryd tua 8 munud yn y car, gan gynnig mynediad o bob rhan o’r Gogledd Orllewin a thu hwnt ar yr M62/M56. O Gyffordd 19 o’r A55, dilynwch yr arwyddion i Landudno a chymerwch yr A470 (Ffordd y Cymry Brenhinol), yna dilynwch yr arwyddion ffordd brown ar gyfer Venue Cymru.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy faes parcio Talu ac Arddangos tu ôl i’r adeilad, gyda llefydd parcio i’r anabl i’r chwith o’r brif fynedfa. Ni allwn sicrhau bod lle parcio ar gael yn ystod cyfnodau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i deithio a pharcio a gweler isod am lefydd parcio eraill os oes angen.
Gellir parcio ar y Promenâd hefyd ac mae yna beiriant Talu ac Arddangos yno hefyd tan 4pm, yna bydd yn rhad ac am ddim.
Tariff Talu ac Arddangos
Mae’n rhaid i unigolion sydd â bathodyn glas dalu oni bai eu bod nhw wedi parcio mewn man parcio i bobl anabl.
Gall prisiau amrywio. Gwiriwch yr arwyddion parcio wrth gyrraedd.
Gallwch dalu am barcio drwy ddefnyddio arian parod, cerdyn neu drwy ddefnyddio’r ap parcio PayByPhone. Gallwch lawrlwytho’r ap yma - https://paybyphone.co.uk. Os byddwch chi’n defnyddio’r ap yma, mae’n rhaid i chi greu cyfrif, a rhif y maes parcio ydi 804457.
Codir tâl rhwng 10am a 4pm bob dydd
Awst: Hyd at 4 awr: £6.00 | Dros 4 awr: £10.00
Medi: Hyd at 4 awr: £5.50 | Dros 4 awr: £8.50
Hydref – Ebrill: Hyd at 2 awr: £2.40 | Hyd at 4 awr: £3.80 | Dros 4 awr: £5.40
Unigolion sydd â bathodyn glas: Am ddim | Gwaherddir Carafanau Modur rhwng 11pm - 8am
Gall prisiau amrywio.
Gallwch ddod o hyd i feysydd parcio Talu ac Arddangos ychwanegol yn Llandudno yma - https://bit.ly/36CQ8n7
Mae sawl gwasanaeth bws yn mynd heibio cefn Venue Cymru (o flaen y maes parcio):
Am fwy o wybodaeth ar wasanaethau bysus Llandudno, cliciwch ym.
Mae Venue Cymru tua 10 munud o daith cerdded o orsaf drên Llandudno (Prif Lein Arfordir y Gorllewin) a Chanol Tref Llandudno.
Os ydych yn gadael gorsaf Llandudno, trowch i’r chwith a dilyn Vaughan Street, a pharhau i Mostyn Broadway O yma, parhewch i lawr Mostyn Broadway a bydd Venue Cymru ar y chwith, heibio Canolfan Nofio Llandudno.
Gwefru Cerbydau Trydan yn Venue Cymru
Rydym ni’n falch o allu darparu ein gwasanaeth arlwyo mewnol, sy’n defnyddio cynnyrch lleol a chynnyrch Cymreig eraill.