Chwilio Venue Cymraeg DDEV

Gwybodaeth am Fynediad

Mae Venue Cymru'n lleoliad hygyrch ac rydyn ni'n cynnig ystod o gyfleusterau i ddiwallu anghenion ein hymwelwyr.

In this section:

Os oes arnoch chi angen cefnogaeth neu gymorth i fynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelfyddydau, efallai y gallwch chi ymuno â Hynt. I ymaelodi gyda Hynt a derbyn Cerdyn Hynt, bydd arnoch chi angen llenwi ffurflen gais.

Mae ein hadeilad a’n cyfleusterau yn hygyrch i bawb. Mae’r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu yn cynnwys:

Cyfleusterau Hygyrch

Toiledau hygyrch ar bob llawr yn ein Theatr a’n Canolfan Gynadledda.  

Mae ystafell 'Changing Places' ar gael yn ein adeilad - gofynnwch am mwy o wybodaeth gan aelod o staff 

Parcio hygyrch

Mae yna fan gollwng wrth ymyl y brif fynedfa gyda digon o le i ddod allan o gerbydau yn ddiogel.

Yn y maes parcio yng nghefn yr adeilad (Mostyn Broadway) mae yna 18 o fannau parcio dynodedig i ddeiliaid bathodyn anabledd; mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodynnau o fewn y mannau hyn.

Defnyddwyr cadeiriau olwyn

Bydd gennym ni le i gadeiriau olwyn yn Seddi’r Llawr ymhob perfformiad. Mae pob ardal gyhoeddus hefyd yn hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn

Trosglwyddo o Gadair Olwyn: Os nad oes mannau ar gael yn yr awditoriwm i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn, yna gallwn drefnu bod sedd yn y theatr yn cael ei neilltuo. Dylid ffonio’r Swyddfa Docynnau i drefnu hyn, a fydd yn eich cynghori ar y sedd orau.

Cadeiriau olwyn moduraidd: Gellir eu defnyddio mewn ardaloedd y cyntedd a'r rhan fwyaf o ystafelloedd cynadledda, ond ni chaniateir hwy yn yr awditoriwm.

Hurio cadeiriau olwyn: Mae yna ychydig o gadeiriau olwyn ar gael i’w hurio er mwyn helpu cwsmeriaid i fynd i mewn i’r awditoriwm, ond mae’n rhaid archebu ymlaen llaw drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau.

Pobl fyddar neu sydd â nam ar eu clyw

Yn Venue Cymru, rydym yn defnyddio Sennheiser MobileConnect, sef system newydd arloesol sy’n gadael i ddefnyddwyr wrando ar ffrwd fyw o berfformiadau’r llwyfan dros glustffonau, dolen gwddf neu gymhorthion clyw cyfatebol, o unrhyw le o fewn yr awditoriwm. Mae’r system hon yn gweithio ar WiFi ac yn gallu cysylltu â’ch dyfais glyfar neu ddyfais wedi’i ffurfweddu’n barod gan Venue Cymru. Gall mynychwyr fwynhau gwell mynediad at ddarllediad byw o berfformiadau ar y llwyfan neu at eu sesiwn gyfarfod trwy glustffonau neu ddolen-wddf (y gellir eu benthyca o'r lleoliad). I gael cyfarwyddiadau manwl ynglŷn â chysylltu, dilynwch y ddolen i’r dudalen briodol.

Mae systemau Sennheiser MobileConnect wedi'u gosod yn yr Awditoriwm, yr Arena a'r Neuadd. Mae dolenni sain traddodiadol yn cael eu gosod mewn mannau cyfarfod eraill pan ofynnir amdanynt gan drefnydd digwyddiad.

Pobl ddall neu sydd â nam ar y golwg

Mae ein llyfrynnau tymhorol ar gael mewn print bras, Braille ac ar gryno ddisg.

Cŵn Cymorth: Os oes gennych chi gi cymorth, rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau pan fyddwch chi’n archebu er mwyn iddyn nhw neilltuo’r seddi mwyaf priodol.

Perfformiadau hygyrch

Perfformiadau hygyrch

Sain Ddisgrifiad: Mae sain ddisgrifiad yn sylwebaeth lafar fyw sy’n cael ei darparu rhwng y deialog am elfennau gweledol cynhyrchiad wrth iddo ddatblygu. Mae’r disgrifiad yn darparu’r wybodaeth hanfodol y bydd person â nam ar ei olwg yn ei fethu.

Teithiau Cyffwrdd: I gyd-fynd â’n perfformiad sy’n cael ei ddisgrifio’n glywedol cynhelir Taith Gyffwrdd cyn y sioe. Mae ein Teithiau Cyffwrdd yn rhoi cyfle i bobl sydd â nam ar eu golwg i gyfarwyddo ag elfennau o'r set, y celfi, a'r gwisgoedd.

Iaith Arwyddo Prydain

Iaith Arwyddo Prydain: Mae llawer o’n perfformiadau yn cynnwys gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddo Prydain. Gall ein tîm yn y Swyddfa Docynnau eich cynghori ynglŷn â'r seddi gorau ar gyfer y gwasanaeth yma.

Perfformiadau gyda Phenawdau

Mae hyn yn debyg iawn i’r isdeitlau a geir ar y teledu ac yn caniatáu i bobl fyddar neu sydd â nam ar eu clyw i fwynhau perfformiadau byw. Bydd geiriau’r actorion yn ymddangos ar uned arddangos pan fyddant yn cael eu dweud neu eu canu. Dangosir enwau’r siaradwyr, effeithiau sŵn a synau oddi ar y llwyfan hefyd.

Perfformiadau Digyffro:

Mae’r rhain wedi eu cynllunio i groesawu pobl a fyddai’n cael budd o berfformiad digyffro, gan gynnwys pobl gyda chyflyrau Sbectrwm Awtistig, synhwyraidd a chyfathrebu neu bobl gydag anabledd dysgu. Rydym ni’n ceisio gwneud y digwyddiadau hyn mor gynhwysol â phosibl ar gyfer teuluoedd ac felly maent ar gael i bawb, hyd yn oed os nad oes arnoch chi angen yr addasiadau a wnawn ar gyfer perfformiadau digyffro. Mae yna agwedd ddigyffro tuag at sŵn a symudiad, ac mae mân newidiadau yn cael eu gwneud i olau ac effeithiau sŵn – bydd y goleuadau ymlaen yn isel a byddwn yn troi’r sain i lawr mymryn.

Perfformiadau Cyfeillgar i Ddementia

Ar gyfer pobl â dementia, a'u teuluoedd, eu cyfeillion a’u gofalwyr (a phawb arall hefyd). Mae’r awyrgylch yn ddigyffro ac mae croeso i bobl symud o gwmpas a mynd a dod fel y mynnant. Mae pob perfformiad yn cynnwys egwyl gydag adloniant byw. *Ni ddarperir gofal bugeiliol yn ystod y digwyddiadau hyn. Mae’n rhaid i berthynas, cyfaill neu ofalwr fynychu hefyd.

Mynediad Cynnar

Mae drysau ein mannau perfformio yn agor tua 30 munud cyn dechrau'r perfformiad. Os ydych yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i'r mannau perfformio, os oes angen mwy o amser arnoch i gyrraedd eich sedd, neu os yw ciwiau'n eich llethu, gallwn drefnu mynediad cynnar.

Gallwch ofyn am hyn wrth brynu eich tocynnau neu, fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio info@venuecymru.co.uk.