Cymorth i Glywed gyda Sennheiser MobileConnect

Mae Sennheiser MobileConnect yn system newydd arloesol sy’n gadael i ddefnyddwyr wrando ar ffrwd fyw o berfformiadau’r llwyfan dros glustffonau, dolen gwddf neu gymhorthion clyw cyfatebol, o unrhyw le o fewn yr awditoriwm.

Canllawiau Cam wrth Gam ar gyfer Defnyddio Sennheiser MobileConnect yn Venue Cymru

1. Cysylltwch â rhwydwaith Wi-Fi Venue Cymru.

2. Lawrlwythwch yr Ap "Sennheiser MobileConnect" naill ai o’r Apple App Store neu Google Playstore (yn rhad ac am ddim).

3. Lansiwch Ap MobileConnect ar eich dyfais.

4. Sganiwch y cod QR ‘Clyw // Hearing’ (gofynnwch i aelod staff).

5. Dewiswch y sianel ‘Clyw // Hearing’.

6. Gwrandewch drwy glustffonau â gwifrau, dolen gwddf neu cysylltwch drwy Bluetooth.

Neu fe allwch chi fenthyca dyfais sydd eisoes wedi’i ffurfweddu ac/neu glustffonau neu ddolen gwddf. Ewch i siarad ag aelod staff i drefnu hyn.

Mwynhewch y perfformiad!

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event