Ein Lleoliadau
P’un a ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer 1,500 o bobl, neu ystafell gyfarfod fach i ddau, mae modd addasu ein lleoliadau hyblyg i ddiwallu eich anghenion.
Mae Venue Cymru wedi’i osod yn erbyn cefndir hardd morlin gogledd Cymru ac mae’n cynnig cyrchfan arbennig a chofiadwy i drefnwyr digwyddiadau. Mae’n llwyddo i gyfuno rhagoriaeth broffesiynol â harddwch naturiol. Mae wedi’i leoli yn nhref gyrchfan fywiog Llandudno ac mae’n cyfuno cyfleusterau pwrpasol â’r croeso cynnes y mae Cymru’n adnabyddus amdano – felly dyma’r dewis delfrydol ar gyfer digwyddiadau arbennig.
Mae Llandudno yn gyrchfan hygyrch sydd o fewn pellter cerdded i Venue Cymru. Mae popeth yn gyfleus o agos – o lety a chysylltiadau cludiant i fannau cymdeithasu a rhwydweithio.
Dechreuwch gynllunio eich digwyddiad yn Llandudno heddiw a darganfod beth sy’n gwneud Venue Cymru yn gyrchfan wirioneddol arbennig.
P’un a ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer 1,500 o bobl, neu ystafell gyfarfod fach i ddau, mae modd addasu ein lleoliadau hyblyg i ddiwallu eich anghenion.
Yn Venue Cymru, ein timau mewnol ein hunain sy’n darparu rhannau pwysig eich digwyddiad.
Mae Venue Cymru wedi bod yn cynnal cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol mawr ers 1982, ac wedi datblygu enw da am ragoriaeth, hyblygrwydd a phroffesiynoldeb.
Yn Venue Cymru nid oes gennym ymagwedd ‘un dull i bawb’ ar gyfer diogelwch digwyddiadau ond byddwn yn teilwra ystod o fesurau diogelwch sy’n briodol a chymesur ar gyfer eich digwyddiad.
Yn cynllunio unrhyw weithgaredd mynediad cyhoeddus fel rhan o’ch digwyddiad? Gall ein timau marchnata mewnol a’n swyddfa docynnau eich helpu i gyrraedd eich cynulleidfa darged.