Theatr
Ein hawditoriwm theatr â 1450 o seddi yw’r lle delfrydol i gynnal cynadleddau mawr, seremonïau ffurfiol, cyngherddau a chynyrchiadau theatr.
P’un a ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer 1,500 o bobl, neu ystafell gyfarfod fach i ddau, mae modd addasu ein lleoliadau hyblyg i ddiwallu eich anghenion.
Mae 28 o leoliadau ar wahân ar gael yn ein cyfleusterau cwbl hygyrch. Gellir defnyddio’r ystafelloedd hyn fel ardaloedd seibiant, ystafelloedd cynadledda mawr, mannau ar gyfer cyfarfodydd neu arddangosfeydd neu fel ardaloedd ar gyfer derbyniadau.
Ein hawditoriwm theatr â 1450 o seddi yw’r lle delfrydol i gynnal cynadleddau mawr, seremonïau ffurfiol, cyngherddau a chynyrchiadau theatr.
Gyda mynediad uniongyrchol o’r prif atriwm, gellir addasu’r gofod llawr gwaelod hwn i nifer o ddigwyddiadau gwahanol. P’un a ydych yn awyddus i gynnal noson wobrwyo fawreddog, cynnal arddangosfa neu gynhadledd fawr - yr arena yw’r lleoliad perffaith i chi.
Mae’r neuadd gynadledda hygyrch hon sydd ar y llawr cyntaf yn cynnig gofod delfrydol i gynnal cynadleddau, ciniawau gala ac arddangosfeydd llai.
Mae’r ystafell ddigwyddiadau amlbwrpas ar y llawr gwaelod yn berffaith ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, arlwyo ar gyfer cynadleddau neu fel gofod arddangos.
Listing excerpt
Yn Venue Cymru mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod sy’n agor i’n hatriwm cynadleddau sy’n olau ac agored. Mae’r ystafelloedd cyfarfod yn dal rhwng 8 - 175.