Mae’r neuadd gynadledda hygyrch hon sydd ar y llawr cyntaf yn cynnig gofod delfrydol i gynnal cynadleddau, ciniawau gala ac arddangosfeydd llai.
Gyda lle i hyd at 600 o bobl eistedd a lle i 350 o bobl fwyta, mae’r neuadd yn cynnig 700m2 o ofod arddangos llawr fflat.
Gellir defnyddio wal i rannu’r ystafell yn ddwy er mwyn cynnal digwyddiadau llai.
Gydag isadeiledd technegol rhagorol, gan gynnwys system oleuadau a sain, gadewch i’n technegwyr digwyddiadau profiadol drafod ein pecynnau clyweled cynhadledd dewisol gyda chi.