Offer AV a Thechnegol
- In this section:
Gyda phrofiad helaeth o gefnogi nid yn unig cynadleddau a seremonïau gwobrwyo, ond hefyd rhai o gynyrchiadau theatr teithiol mwyaf y West End, gall Tîm Gweithrediadau Technegol mewnol Venue Cymru ddarparu’r holl arbenigedd a chymorth sydd ei angen arnoch i ddarparu digwyddiad llyfn a phroffesiynol.
Gellir darparu pecynnau pwrpasol ar gyfer cyfleusterau cynhyrchu digwyddiadau os oes gennych friff penodol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cynnig tri phecyn clyweled cynhadledd sydd ar gael yn unrhyw un o'n mannau digwyddiadau mawr i'ch cynorthwyo.
Fel arall, os oes gennych chi Gwmni Cynhyrchu yr ydych yn gweithio gyda nhw’n rheolaidd, byddem yn falch o weithio gyda nhw gan ychwanegu gwybodaeth am y lleoliad at eu profiad o’ch anghenion ar gyfer cynhadledd.
Cysylltwch â’ch Rheolwr Cyfrif drwy e-bost neu dros y ffôn i drafod y mater ymhellach.