Diogelwch
Mae Llandudno’n elwa o fod yn amgylchedd cyfeillgar a diogel lle bo’r rhai sy’n ymweld â digwyddiadau’n nodi eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn cerdded o amgylch y dref yn y nos. Mae’r dref wedi’i hasesu gan Gymdeithas Rheolaeth Tref a Dinas ar gyfer statws Baner Borffor (a ddyfernir i gyrchfannau sy’n gallu dangos economi min nos diogel a bywiog) yn ddiweddar.
Mae Venue Cymru o fewn Haen Uwch Deddf Gwarchod Anheddau (Cyfraith Martyn) ac mae hyfforddiant staff parhaus, TCC eang a gweithdrefnau diogelwch cadarn oll yn cyfrannu at sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio’n llwyr.
Yn Venue Cymru nid oes gennym ymagwedd ‘un dull i bawb’ ar gyfer diogelwch digwyddiadau ond byddwn yn teilwra ystod o fesurau diogelwch sy’n briodol a chymesur ar gyfer eich digwyddiad. Bydd y Rheolwr Cyfrif Digwyddiadau’n trafod gyda chi wrth gynllunio a bydd yr anghenion diogelwch yn cael eu hasesu ar sail risg yn unol â’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu a’r lefelau bygythiad cefndirol.