Amdanom Ni
Mae Venue Cymru wedi bod yn cynnal cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol mawr ers 1982, ac wedi datblygu enw da am ragoriaeth, hyblygrwydd a phroffesiynoldeb.
Mae ein gofod amlbwrpas a’n gallu technegol yn ein galluogi i gynnal ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys:
- Cynadleddau
- Arddangosfeydd
- Gwobrau
- Sesiynau Hyfforddiant
- Cystadlaethau a thwrnameintiau
- Perfformiadau
- Ciniawau
- Cyfarfodydd
Beth bynnag yw eich cynlluniau, mae Venue Cymru’n cynnig cyfleusterau addasadwy y gellir eu teilwra i’ch gweledigaeth chi.
Mae ein tîm profiadol yn deall anghenion trefnwyr digwyddiadau ac yn gweithio mewn partneriaeth â chi, fel estyniad i’ch tîm eich hunan, er mwyn sicrhau y caiff pob manylyn ei ddarparu’n ddi-dor.
Bydd un o’n Rheolwyr Digwyddiadau’n gweithio gyda chi o’r ymholiad cychwynnol hyd at y diwrnod mawr i sicrhau darpariaeth lwyddiannus. Gyda thros 60 mlynedd o brofiad rhyngom a miloedd o ddigwyddiadau yr ydym wedi dysgu ohonynt, gallwn eich sicrhau y byddwch yn derbyn y gefnogaeth orau bosibl.