Chwilio Venue Cymraeg DDEV

Arlwyo a Gwleddoedd

Banqueting

Boed yn lluniaeth ar gyfer egwyl, neu bryd tri chwrs, bydd ein tîm arlwyo mewnol proffesiynol yn gallu darparu ar gyfer eich digwyddiad.  Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn arbenigo mewn prydau sy’n cynnwys y cynnyrch gorau sydd ar gael, gan gynnwys llysiau tymhorol, bwyd môr, cig oen a chig eidion Cymreig o’r ardal leol. 

Mae ein cogyddion wedi paratoi amrywiaeth o fwydlenni sy’n addas ar gyfer pob achlysur o swper i griw bychan i ginio mawreddog. Siaradwch â’ch rheolwr cyfrif i gael rhagor o fanylion. 

Rydym wastad yn fodlon darparu ar gyfer anghenion dietegol arbennig.  Rhaid archebu’r rhain ymlaen llaw a chadarnhau’r niferoedd terfynol o leiaf ddeg diwrnod cyn y digwyddiad.   

Y Review

Bwyty Y Review

Mae ein bwyty o ansawdd uchel ar y safle, Y Review, yn cynnig golygfeydd trawiadol ar draws Bae Llandudno, gan eich galluogi i fwynhau pryd moethus gyda thirlun anhygoel.  Siaradwch â’ch rheolwr cyfrif am archebion preifat.  

Mwy o wybodaeth
Catlins

Bar a Chaffi Catlin

Mae Catlins, ein bar caffi, yn cynnig awyrgylch anffurfiol a hamddenol gydag amrywiaeth o de a choffi arbennig a byrbrydau blasus.  

Mwy o wybodaeth