Chwilio Venue Cymraeg DDEV

image of arena set with multiple round tables and a red carpet running towards the stage.

Gyda mynediad uniongyrchol o’r prif atriwm, gellir addasu’r gofod llawr gwaelod hwn i nifer o ddigwyddiadau gwahanol.  P’un a ydych yn awyddus i gynnal noson wobrwyo fawreddog, cynnal arddangosfa neu gynhadledd fawr - yr arena yw’r lleoliad perffaith i chi.   

Mae’r Arena llawr fflat rhychwant agored yn cynnig 1,550m2 o ofod â charped a mynediad uniongyrchol rhwydd.  

Yn dilyn buddsoddiad mawr mewn isadeiledd technegol; gall yr Arena gael ei addasu’n hawdd ar gyfer y digwyddiadau mwyaf amrywiol ac anodd. 

Gyda phrofiad helaeth o gefnogi nid yn unig cynadleddau a seremonïau gwobrwyo, ond hefyd rhai o gynyrchiadau theatr teithiol mwyaf y West End, gall Tîm Gweithrediadau Technegol mewnol Venue Cymru ddarparu’r holl arbenigedd a chymorth sydd ei angen arnoch i ddarparu digwyddiad llyfn a phroffesiynol. 

Mae cyfleusterau cynhyrchu digwyddiadau ar gael, gan gynnwys pecynnau clyweled cynhadledd. 

Mae’r fanyleb dechnegol ar gael i’w lawrlwytho.