Chwilio Venue Cymraeg DDEV

Studio

Ychwanegiad diweddar at y gyfres o ystafelloedd yn Venue Cymru; mae’r stiwdio yn ystafell gynadledda fawr gyda llawr sbring.  Gyda lle i eistedd hyd at 178, gellir defnyddio’r ystafell fel prif ofod ar gyfer cynadleddau llai, ystafell ymneilltuo fawr neu ofod gweithdy (beth am ddosbarth ioga neu ddawns?). 

Mae sgriniau deuol LED yn cynnig cyflwyniadau di-dor. Holwch eich rheolwr cyfrif am y cyfleusterau sain yn yr ystafell hon. 

  • Golau naturiol 
  • Llawr sbring 
  • Aerdymheru y gellir ei reoli 
  • Golau y gellir ei bylu 
  • Yn cynnwys sgriniau LED