Brenhines sioeau Broadway, y West End a thu hwnt, mae’r sioe gerdd hynod lwyddiannus SIX yn dychwelyd i Landudno ar ôl llwyddiant y tro diwethaf pan werthwyd pob tocyn!
O Freninesau Tuduraidd i Dywysogesau Pop, mae chwe gwraig Harri VIII yn defnyddio’r meicroffon i ddweud eu hanes, gan ailgymysgu pum can mlynedd o dor-calon hanesyddol i 80 munud o ddathlu pŵer merched y 21ain ganrif. Efallai mai llewys gwyrdd sydd gan y Breninesau hyn ond mae eu gwefusau’n goch gwrthryfelgar.
Felly beth amdani…
Mynnwch docyn rŵan!