Miss Americana - A tribute to Taylor Swift

Miss Americana - A tribute to Taylor Swift

Archebwch nawr

Camwch i fyd digymar Taylor Swift yn y sioe deyrnged wefreiddiol hon gyda’r anhygoel Xenna.  Dyma ddathliad o gerddoriaeth, arddull a phresenoldeb llwyfan digymar y gantores bop eiconig.

Mae perfformiad Xenna’n ymgorffori holl hanfodion nodedig Taylor Swift - ei llais, ei hedrychiad a’i charisma magnetig 

Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cludo i fyd Taylor wrth iddynt gydganu’r clasuron o “Love Story”, “Blank Space,” a “Shake It Off,” i “Fortnight” a “The Tortured Poets Department”. Bydd hefyd yn cynnwys dawnswyr a gwisgoedd yn union fel y rhai gwreiddiol, yn arddangos steil arbennig Taylor Swift.

Mae’r sioe bellach yn cynnwys y 12 cyfnod o yrfa Taylor, a chaneuon o’r albwm diweddaraf The Life of a Showgirl. Mae’r cyfnod newydd hwn yn ychwanegu elfen o swyn at y set, gan ddathlu doniau a phob pennod o yrfa Taylor. 

Pa un a ydych yn ffan Taylor Swift mawr neu’n rhywun sy’n caru cerddoriaeth wych, dyma deyrnged ddisglair i un o sêr mwyaf y byd. Byddwch yn barod i ail-fyw caneuon mwyaf poblogaidd Taylor Swift yn y sioe hon sydd mor agos at y gwreiddiol ag y gall fod!
 

Tocyn VIP Cwrdd a Chyfarch £15: Mwynhewch brofiad bythgofiadwy gyda thocyn VIP Cwrdd a Chyfarch cyn y sioe! Mae tocynnau yn awr ar gael am gyfle unigryw i gwrdd â Xenna, treuliwch awr yn ei chwmni cyn y sioe, tynnwch luniau, gofynnwch unrhyw gwestiynau, ac fe gewch boster arbennig wedi’i arwyddo i fynd adref gyda chi. Peidiwch â cholli’r cyfle bythgofiadwy hwn - mae tocynnau’n brin! Nid yw hyn yn cynnwys tocyn ar gyfer y sioe.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event