Jesus Christ Superstar
-

Jesus Christ Superstar

-
Book now

ALBWM A DANIODD CHWYLDRO. CHWYLDRO A NEWIDIODD Y BYD. AILDDYFEISIO AR GYFER Y MILENIWM HWN.

Timothy Sheader (Crazy for You, Into the Woods) sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd, hudolus hwn o’r ffenomen fyd-eang eiconig, JESUS CHRIST SUPERSTAR, sy’n dod i Venue Cymru am wythnos yn unig!

Bydd Ian McIntosh (We Will Rock You, Follies, Beautiful: The Carole King Musical) yn portreadu Iesu Grist; Shem Omari James (Taith Dreamgirls y DU) yn portreadu Jiwdas; a Hannah Richardson (The Last Ship gan Sting) fydd yn chwarae rhan Mair. Wedi ei lwyfannu’n wreiddiol gan Theatr Awyr Agored Parc Regent Llundain, bu i’r cynhyrchiad hwn a ailgrëwyd ennill Gwobr Olivier yn 2017 ar gyfer Adfywiad Gorau o Sioe Gerdd.

Gyda choreograffi gan Drew McOnie (King Kong, Strictly Ballroom), a cherddoriaeth a geiriau gan yr hynod dalentog Andrew Lloyd Webber a Tim Rice, mae JESUS CHRIST SUPERSTAR yn adrodd hanes wythnosau olaf bywyd Iesu Grist. Gan adlewyrchu’r gwreiddiau roc a ddiffiniodd genhedlaeth, mae’r sgôr chwedlonol yn cynnwys ‘I Don’t Know How to Love Him’ a ‘Gethsemane’.

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld y sioe gerdd “odidog, iasol, nefolaidd hon” – The Guardian. ARCHEBWCH NAWR!

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event