Y SIOE GERDD FWYAF ANHYGOEL yn hedfan i VENUE CYMRU am 1 WYTHNOS YN UNIG!
Mewn cynhyrchiad newydd sbon o’r ffefryn poblogaidd hwn ymysg teuluoedd, a gyfarwyddir gan Thom Southerland (Titanic, Parade), wedi ei goreograffu gan Karen Bruce (Strictly Come Dancing y BBC, The Bodyguard) a’i ddylunio gan Morgan Large (Newsies, Joseph and the Technicolour Dreamcoat) mae’r sioe gerdd hon sydd wedi ennill gwobrau yn llawn caneuon bythgofiadwy gan y Sherman Brothers, gan gynnwys Toot Sweets, Hushabye Mountain, Truly Scrumptious ac wrth gwrs y gân deitl a enwebwyd ar gyfer Gwobrau’r Academi, Chitty Chitty Bang Bang.
Yn seiliedig ar stori oesol Ian Fleming i blant ac a wnaed yn ffilm enwog ym 1968, yn CHITTY CHITTY BANG BANG rydym yn cwrdd â’r dyfeisiwr difeddwl Caractacus Potts (Adam Garcia) sy’n adfer hen gar rasio gyda chymorth ei blant Jemima a Jeremy. Yn fuan mae’r teulu’n darganfod bod gan y car bwerau hud, ac ynghyd â’r Truly Scrumptious hyfryd, maent yn mynd ar antur ryfeddol, ddigrif dros ben, i bellteroedd byd. Mae eu siwrnai dwymgalon yn gwneud CHITTY CHITTY BANG BANG yn sioe llawn hwyl i’r teulu cyfan.
PEIDIWCH Â GADAEL IDDO ADAEL HEBOCH CHI!