Tian Yu Association International yn masnachu fel Cathay Arts & Heritage yn cyflwyno
Shen Yun
Dewch i weld Tsieina cyn Comiwnyddiaeth
Yr eiliad y bydd y llen yn agor, byddwch mewn breuddwyd ryfeddol.
Mae Shen Yun yn mynd â chi ar daith syfrdanol trwy 5,000 o flynyddoedd o ddiwylliant Tsieina wedi’i ysbrydoli gan ddwyfoldeb. Mae harddwch coeth y nefoedd, doethineb dwfn teyrnasau’r gorffennol, chwedlau bythol a thraddodiadau ethnig i gyd yn dod yn fyw trwy ddawns glasurol Tsieineaidd, cerddoriaeth hudolus cerddorfa fyw, gwisgoedd go iawn, a chefnlenni rhyngweithiol wedi’u patentu. Byddwch yn ailymweld ag amser pan oedd ysgolheigion ac artistiaid yn ceisio canfod cytgord â’r Tao, neu “Ffordd” y bydysawd, a phan oedd bodau dwyfol yn cerdded ar y ddaear i ysbrydoli dynoliaeth.
Ymunwch â ni am noson llawn harddwch, doethineb, dewrder a gobaith. Dewch i weld harddwch y Nefoedd ar y llwyfan a chael eich hudo gan Shen Yun – yn fyw. Mae’n brofiad y byddwch yn ei gofio am byth!
“Indisputably a spectacle... jaw-dropping”
Chicago Tribune
“I’ve never seen anything quite so beautifully choreographed in my entire life.”
Shirley Ballas, Acclaimed British ballroom dancer, coach and adjudicator