Bydd Rhythm of the Dance yn dychwelyd i’r DU yn 2026 ar gyfer ei 27ain flwyddyn o deithio’r byd mewn mwy na 50 gwlad.
Mae’n cynnwys cerddorion o’r radd flaenaf fydd yn chwarae’n fyw ar y llwyfan, cantorion yn canu’n fyw a phencampwyr dawnsio’r byd, ac mae’r sioe hon sy’n mesmereiddio yn brofiad swynol o rhythmau cyson gyda choreograffi slic a gaiff ei berfformio ar gyflymder anhygoel.
Ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon sy’n Wyddelig yn ei hanfod, trwy hanes y wlad at yr Iwerddon fodern, drefol a welwn heddiw, sy’n llawn doniau.