Mae dweud mai Showaddywaddy yw’r band roc a rôl gorau yn y byd yn ddatganiad beiddgar ond mae’r teitl wedi bod yn addas ar gyfer y band dros y 5 degawd diwethaf!
Wedi’u ffurfio yn yr 1970au yng Nghaerlŷr o sawl band lleol, maen nhw wedi gwerthu mwy nag 20 miliwn o recordiau ac wedi teithio’n eang i bedwar ban byd.
Mae eu sioe fyw yn ddeinamig ac yn llawn ysbrydoliaeth a fydd yn cynnwys eu caneuon gorau, a llwyddodd sawl un ohonyn nhw i gyrraedd rhif un yn siartiau pop Ewrop. ‘Under The Moon of Love’, ‘Three Steps to Heaven’, ‘Hey Rock & Roll’, ‘When’, ‘Blue Moon’, ‘Pretty Little Angel Eyes’ a llawer iawn mwy.
Felly dewch i ymuno â’r ‘Dancin’ Party’… ‘You’ve Got What It Takes’!