Yr anfarwol Brendan, James, Pasha, Vincent ac Ian yn eu Sioe NEWYDD SBON.
Vegas: After Hours – Where the Dance Floor Never Sleeps!
Byddwch yn barod am y noson allan orau erioed - mae Vegas: After Hours yn dod â phump o hoelion wyth Strictly ynghyd am sioe newydd anhygoel sy’n cynnwys holl swyn, sbloets a chyffro Las Vegas.
Yn dilyn dwy daith lwyddiannus, mae sêr Strictly, Brendan Cole, James Jordan, Pasha Kovalev, Vincent Simone ac Ian Waite yn eu holau–y tro hwn yn dod ynghyd i greu sioe sy’n dathlu holl swyn, sbloets a chyffro Las Vegas fel erioed o’r blaen.
Goleuadau neon a nosweithiau trydanol, byrddau rwlét yn troelli, dawnswragedd disglair, casinos llachar, haul yn machlud dros yr anialwch, partïon moethus wrth y pwll, priodasau ar wib, gwestai byd-enwog ac adloniant heb ei ail. Mae Vegas: After Hours yn cipio hyn oll mewn un noswaith fythgofiadwy.
Gyda’u partneriaid benywaidd anhygoel, bydd ein pump o arwyr dawnsio’n dod ag ysbryd Sin City yn fyw drwy berfformiadau dawnsio gwefreiddiol ac adloniant di-baid—oll i gyfeiliant caneuon y sêr mwyaf a fu’n perfformio ar lwyfannau Las Vegas.
Mae Vegas: After Hours yn fwy na dim ond sioe—mae’n ddathliad o brifddinas adloniant y byd gyda phump o ddawnswyr anfarwol, un llwyfan a noson â naws Vegas pur.
Goleuadau, Dawnswyr Anfarwol a Vegas – mae popeth dan haul yn Vegas: After Hours. O Strictly i Sin City, dyma’r sioe ddawnsio fwyaf ysblennydd erioed!