Ffefrynnau Opera (Gwanwyn)

Ffefrynnau Opera (Gwanwyn)

Archebwch nawr

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â noson fythgofiadwy o ffefrynnau’r byd opera i’r llwyfan. 

Os ydych yn frwd dros opera neu’n awyddus i roi cynnig arni, eisteddwch ac ymunwch â ni ar daith drwy rai o’r darnau mwyaf adnabyddus yn y byd operatig, sy’n fwy cyfarwydd nag y byddech yn ei feddwl. 

Mwynhewch gyfoeth o ariâu bendigedig, o’r darn hyfryd O mio babbino caro (Gianni Schicchi) i’r darn y gellir ei adnabod ar unwaith, La donna è mobile (Rigoletto), yn ogystal â darnau corawl a cherddorfaol aruchel o operâu gwych eraill. Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth a glywir yn rheolaidd ym myd diwylliant poblogaidd, o Mozart i Verdi, Puccini, Britten a mwy – gan greu cymysgedd operatig cwbl arbennig. 

wno.org.uk/favourites

#WNOfavourites

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event