The Big Christmas Sing A-Long

The Big Christmas Sing A-Long

Archebwch nawr

Paratowch i godi eich lleisiau a dathlu’r Nadolig wrth i’r Big Christmas Sing-a-long gychwyn ar ei daith gyntaf o amgylch y DU ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2026. Gyda’r perfformwyr a’r cyflwynwyr poblogaidd Aled Jones ac Alexander Armstrong wrth y llyw, mae’r profiad byw twymgalon hwn yn argoeli i fod yn noson fythgofiadwy o gerddoriaeth, chwerthin a hwyl yr Ŵyl.

Gan berfformio yn rhai o Eglwysi Cadeiriol a lleoliadau prydferthaf y wlad ar hyd a lled y DU, bydd ambell i syrpréis arbennig yn eich disgwyl ar hyd y ffordd.

Bydd Aled Jones, un o leisiau mwyaf eiconig y DU, yn perfformio rhai o’r caneuon mwyaf poblogaidd, gan gynnwys ei ddehongliad nodweddiadol o Walking in the Air, ynghyd â detholiad o garolau clasurol sydd wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau’r Nadolig. Yn ymuno ag ef ar y llwyfan, bydd y digrifwr, yr actor, y cyflwynydd teledu a’r canwr bas-bariton o Loegr, Alexander Armstrong, sy’n siŵr o ddod â hiwmor, cynhesrwydd a bwrlwm Nadoligaidd i bob perfformiad gyda’i lais cyfoethog a’i sirioldeb naturiol.

Gwahoddir cynulleidfaoedd i wisgo’u hoff siwmper Nadolig ac ymuno â’r ddau i gydganu detholiad gorfoleddus o garolau traddodiadol, ffefrynnau modern yr ŵyl, a chlasuron tymhorol anfarwol yn y lleoliadau mwyaf Nadoligaidd eu naws.

Bydd Taith y Big Christmas Sing-a-long yn ymgorffori gwir ysbryd y Nadolig, gan gynnig noson hudolus llawn hwyl yr Ŵyl a chaneuon fydd yn codi calon pawb wrth gydganu!

 

Ultimate Big Christmas Singalong VIP Experience

  • Make this Christmas unforgettable with an ultimate VIP experience, your package includes:
  • A premium seated ticket for the show
  • Exclusive access to a behind the scenes preview of the show before the doors open
  • A fun photo opportunity with Aled & Alexander in front of a festive backdrop
  • A limited edition autographed keepsake
  • A Christmas gift to take home
  • A truly special way to celebrate the season
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event