Yn Ardal Lladin, Paris, mae pedwar artist ifanc yn byw i’r funud, gan rannu’r ychydig sydd ganddynt; yn ceisio gwireddu breuddwydion mawr ac yn chwerthin yn yr oerfel. Pan mae Rodolfo yn cwrdd â Mimì, gwniadwraig dawel gyda’i gobaith yn pylu, mae eu cysylltiad yn fythgofiadwy yn y fan a’r lle. Ond mewn byd wedi’i lywio gan dlodi ac angerdd, mae’r cariad yn danbaid ond yn llawer rhy fyr.
Mae campwaith teimladwy iawn Puccini yn cyfleu angerdd ieuenctid drwy rywfaint o’r gerddoriaeth hyfrytaf a'r fwyaf adnabyddus a gyfansoddwyd erioed. Mae La bohème yn dwyn i gof ysbryd a dwyster bywyd bohemaidd: y llawenydd o syrthio mewn cariad, y boen o ollwng gafael a bregusrwydd y cyfan.
Mae’r cynhyrchiad clodfawr hwn yn ailddychmygu’r stori boblogaidd hon gydag eglurder trawiadol a phŵer emosiynol. Fe’i lleolwyd mewn byd llwm, monocrom wedi’i ysbrydoli gan Baris y 1930au, lle mae cysgodion yn loetran a marwolaeth byth yn bell.
Y canlyniad yw La bohème sy’n teimlo’n fythol a chyfoes. Mae’n darlunio portread byw o fywydau ifanc yn byw ar y dibyn, lle mae pob eiliad yn bwysig a phob ffarwél yn brifo.
wno.org.uk/boheme