What's Love Got To Do With It

What's Love Got To Do With It

Archebwch Nawr

Ar ôl taith wych ledled y DU pan werthwyd pob tocyn, bydd y rhai sy’n hoff o Tina Turner wrth eu boddau oherwydd bod What’s Love Got To Do With It? yn ôl ar gyfer 2023, yn dathlu cerddoriaeth a gyrfa 60 mlynedd yr arwres roc a ‘soul’ anhygoel hon. Disgwyliwch noson fywiog o roc a rôl a fydd yn codi’r galon gyda band byw yn perfformio. Mae’r sioe orfoleddus hon yn cynnwys y caneuon poblogaidd i gyd yn cynnwys Proud Mary, River Deep, Simply The Best, Private Dancer, a llawer mwy.

Mae’r sioe arbennig hon yn cael ei chyflwyno i chi gan gynhyrchwyr llwyddiannus Whitney - Queen Of The Night, ac mae What’s Love Got To Do With It? yn talu teyrnged i un o artistiaid cerddorol mwyaf poblogaidd ac eiconig yr 20fed Ganrif.

Yn y sioe theatr gyffrous hon, mae’r gynulleidfa’n mynd i gael gwledd o berfformiadau roc a rôl bywiog a fydd yn codi’r galon yn cynnwys caneuon mwyaf poblogaidd Tina a bydd band 10 offeryn yno hefyd.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event