Vampires Rock Eternal Love - The Musical
-

Steve Steinman's

Vampires Rock Eternal Love - The Musical

-
Archebwch Nawr

Mae Steve Steinman yn dathlu 22 mlynedd o groniclau epig Vampires Rock. Dyma ddechrau newydd a phennod newydd gyda’r sioe roc wreiddiol newydd sbon,  Eternal Love!

Mae’n cynnwys dros 20 o ganeuon gwreiddiol o ddau albwm a gyrhaeddodd Rif 1 yn y siartiau, gan gynnwys chwe sengl Rhif 1 a’r clasur Rhif 1 gan y cyfansoddwr chwedlonol John Parr, "Everything They Said Was True". Gyda chast llawn cantorion, dawnswyr a cherddorion anhygoel, mae hon wir yn noson i’r rhai sy’n mwynhau theatr gerdd a cherddoriaeth roc fel ei gilydd.

Dechreuodd y stori dros ddau gan mlynedd yn ôl, pan gafodd y Barwn (yr actor carismatig, Steve Steinman) a’i griw brith o fampiriaid eu herlid o’u castell a’u cartref, Club Live and Let Die, gan y pentrefwyr. Maen nhw’n ffoi dros dir a môr i ymgartrefu mewn hen drên sgrech anghyfannedd, gan achosi llanast ac anrhefn ymysg y trigolion lleol. Ar ôl sawl blwyddyn, mae’r Barwn yn penderfynu dychwelyd i’w famwlad, ailfeddiannu ei gastell a chwilio am ei hen gariad, Pandora, y credwyd ei bod wedi marw yn y tân mawr.

Wastad wrth ochr y Barwn y mae Bosley, ei fwtler a’i gyfaill mynwesol, sy’n cynnig canlyniadau doniol iawn ar brydiau.

“Steve Steinman had the audience eating out of his hand”

Manchester Evening News

“Definitely my new guilty pleasure”

Glasgow Daily Record
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event