Vampires Rock - Day of the Dead Symphonic

Vampires Rock - Day of the Dead Symphonic

Archebwch Nawr

Vampires Rock Day of the Dead Symphonic yw’r sioe ddiweddaraf yn y Saga Vampires Rock sydd wedi bod yn mynd ers ugain mlynedd. 

Gyda Steve Steinman yn serennu; bydd yr artist recordio sydd wedi cyrraedd brig y siartiau a’r cynhyrchydd sioeau uchel ei glod yn cyflwyno noson o Roc Clasurol gyda Cherddorfa Roc Symffonig Day of the Dead.  Profwch sŵn band Roc Steve Steinman, band a yrrir gan adrenalin, gyda phŵer llawn y Gerddorfa Roc Symffonig, bydd cast llawn o gantorion, dawnswyr a rhai o’r lleisiau roc gorau yn y wlad yn perfformio’r clasuron roc gorau erioed. 

Bydd gwestai arbennig, y seren Nathan James, yn ymuno â Steve a’r cast ar gyfer y sioe epig hon. Mae Nathan, prif ganwr gyda’r band Inglorious, yn cael ei gofio hefyd am ei gyfnod ar sioe deledu Andrew Lloyd Webber Superstar! a fersiwn Sioe Gerdd Jeff Wayne o The War of the Worlds.  

Dyma noson ar gyfer pawb sy’n hoff o roc!  

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event