DYMA NI ETO....! MAE'R SIOE GERDD WYCH YN ÔL YN Y DU.
Stori gariad wedi ei gosod yn Los Angeles yw ROCK OF AGES sy’n cynnwys dros 25 o ANTHEMAU ROC CLASUROL. Ymgollwch eich hun mewn dinas ac amser pan fo BREUDDWYDION gymaint â'r GWALLTIAU ac yn wir fe all y breuddwydion hynny ddod yn wir!
Byddwch yn canu ac yn chwerthin yn y sioe gerdd hon sy'n gomedi hynod o ddigrif gyda'i chaneuon EPIG, sy’n cynnwys ‘Don’t Stop Believin’’, ‘We Built This City’, ‘The Final Countdown’, ‘Wanted Dead or Alive’, ‘Here I Go Again’, ‘Can’t Fight this Feeling’ ac ‘I Want To Know What Love Is’, sy’n cael eu perfformio'n uchel a balch gan fand byw GWYCH.
Mae’r sioe bellach yn un fyd enwog ac wedi cael cyfnodau ar Broadway, y West End yn Llundain a Las Vegas ac mae fersiwn ffilm wedi ei gwneud gyda sêr Hollywood. Rydym yn addo y bydd hon yn NOSON I’W CHOFIO!
RHYBUDD: YN CYNNWYS ANFOESOLDEB Y BYD ROC A RÔL
‘Absurdly enjoyable. As guilty as pleasures get! Impossible to resist’
The New York Times
Lluniau o’r cast blaenorol
‘High energy, feel-good nostalgia that will put a smile on your face'
Sunday Express