Chwilio Venue Cymraeg DDEV

The Houghton Weavers

Dydd Gwener 25 Medi 2026, 7:30pm - 7:30pm yn Theatr Colwyn

Ticketsolve 3e906b0657c71d95e845cee087e98934

Mae’r HOUGHTON WEAVERS, grŵp Comedi / Gwerin mwyaf blaenllaw gogledd-orllewin Lloegr, wedi bod yn diddanu’r werin bobl ers mwy nahanner can mlyneddbellach gyda’u cyfuniad unigryw o gerddoriaeth werin boblogaidd, hiwmor a chyfranogiad y gynulleidfa. Maent wedi bod ar y teledu a’r radio dro ar ôl tro ac yn dal i fynd ar daith o amgylch amryw theatrau a chanolfannau diwylliannol.

Ar ôl perfformio’n ddiweddar fel prif Artistiaid yn y Great British Folk Festival, cyrhaeddodd eu sengl“Wild Mountain Thyme”40 Uchaf y Siartiau Treftadaeth a bydd i’w chlywed cyn bo hir mewn ffilm newydd, ‘Between Weathers’. Mae’r band wedi creu mwy na deg ar hugain o recordiau mewn stiwdios fel Abbey Road a Frog Studios, gyda Steve Millington yn gwneud y trefniant a’r gwaith cynhyrchu ar gyfer tair ar hugain ohonynt.

Mae’rHOUGHTON WEAVERSyn addo digon o chwerthin, gyda’u hiwmor heintus a’u llu o hanesion doniol. Cewch glywed hen ffefrynnau’r Weavers fel Blackpool Belle, Sit Thi Deawn, Matchstalk Men a Dirty Old Town, ynghyd ag alawon newydd, caneuon gwreiddiol a cherddi. Rhwng caneuon gwerin tanllyd, clasuron i bawb eu canu a baledi hyfryd, a pa bynnag ganeuon y mae’r gynulleidfa’n gofyn amdanynt, mae pob un o sioeau’r Houghton Weavers ychydig yn wahanol!

MaeJim Berry a Steve Millington, aSimon Bradyar y mandolin, yn gyfuniad cyffrous ar lwyfan a byddwch chi’n siŵr o fod yn canu gyda’r sioe hapus hon!

Mae sioe gan y HOUGHTON WEAVERS yn argoeli i fod yn noson wych o adloniant, ac mae eu profiad – ynghyd â’u steil a’u proffesiynoldeb – yn sicrhau y byddan nhw’n cadw at eu harwyddair, sef‘Keep Folk Smiling!’

Gwybodaeth am y digwyddiad

Yn dechrau
25 Medi 2026
Diwedd
25 Medi 2026
Lleoliad
Theatr Colwyn Cyfarwyddiadau
Categori
Cerddoriaeth

Opsiynau tocynnau

The Houghton Weavers

Dydd Gwener 25 Medi 2026, 7:30pm

o £18.50