Swan Lake
Imperial Classical Ballet®
Dydd Mawrth 6 Hyd 2026, 7:30pm - 7:30pm yn Venue Cymru
Bale oesol gyda dawnsio cain -Yn cynnwys Cerddorfa fyw gyda dros 30 o gerddorion.
Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae Imperial Classical Ballet® yn dychwelyd eleni i’r DU i’ch swyno gyda chynhyrchiad bendigedig oSwan Lake.
Mae Swan Lake yn dilyn hanes dwy ferch ifanc, Odette ac Odile, sydd mor debyg i’w gilydd fel y gellir yn hawdd camgymryd un am y llall.
Mae Swan Lake yn chwedl gymhellgar sy’n adrodd stori ramant drasig am y dywysoges Odette a gaiff ei throi’n alarch gan felltith gythreulig. Daw'r Tywysog Siegfried ar draws haid o elyrch wrth hela. Ond wrth weld un o’r elyrch yn troi i fod yn ferch ifanc hardd, caiff ei swyno'n llwyr - a fydd ei gariad yn ddigon cryf i dorri'r felltith gythreulig a osodwyd arni?
O ysblander gogoneddus ystafell ddawns y palas i’r llyn yng ngolau lleuad lle mae elyrch godidog yn arnofio’n hamddenol ar y dŵr, mae hanes y rhamant drasig hon yn ddiguro.
Mae Swan Lake yn berfformiad bale sy’n cipio’r ystod lawn o emosiynau dynol fel dim arall - o obaith i anobaith, o arswyd i dynerwch, ac o’r prudd i orfoledd.
Dyma ffordd wych i dreulio eich noson, i greu atgofion y byddwch yn eu trysori ymhell ar ôl i’r llen ddisgyn!
I gael rhagor o fanylion, ewch iwww.amande-concerts.co.uk
Roedd Imperial Classical Ballet® yn arfer cael ei adnabod fel Classical Ballet and Opera House
£46.50, £43.50, £40.50, £37.50
Consesiynau: £2 oddi ar docynnau'r pris uchaf
Tocyn Teulu: £138
Mae pris y tocyn yn cynnwys ffi weinyddol o £3 a tholl theatr o £1.50.
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Yn dechrau
- 6 Hydref 2026
- Diwedd
- 6 Hydref 2026
- Lleoliad
- Venue Cymru Cyfarwyddiadau
- Categori
- Bale
Opsiynau tocynnau
Mae pris y tocyn yn cynnwys ffi weinyddol o £3 ac ardoll theatr o £1.50