Chwilio Venue Cymraeg DDEV

Ocean Film Festival

Dydd Sadwrn 3 Hyd 2026, 7:30pm - 7:30pm yn Venue Cymru

3 Oct Ocean Film

Camwch ar fwrdd y llong am noson o antur ar y môr! Mae Gŵyl Ffilmiau Môr y Byd yn cynnwys dau gasgliad newydd o’r ffilmiau mwyaf anhygoel am antur ar y môr!

Yn cael eu cyflwyno i chi’n arbennig gan y tîm y tu ôl i daith Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff y DU ac Iwerddon, mae'r detholiad hwn o ffilmiau byrion yn cyfuno bywyd môr syfrdanol a mordeithiau gwyllt mewn dathliad sinematig o’n cefnforoedd.

Mentrwch i ddyfnderoedd dirgelaf y blaned i gyfarfod y syrffwyr, padlwyr, plymwyr a gwyddonwyr sydd wedi cysegru eu bywydau i ateb galwad y môr. Ymgollwch yn rhyfeddodau’r môr mawr glas - heb wlychu eich traed!

Gwybodaeth am y digwyddiad

Yn dechrau
3 Hydref 2026
Diwedd
3 Hydref 2026
Lleoliad
Venue Cymru Cyfarwyddiadau
Categori
Ffilm

Opsiynau tocynnau

Ocean Film Festival

Dydd Sadwrn 3 Hyd 2026, 7:30pm

12A Age Restriction
o £14.00

Consesiwn: £17.50 / Grwp: 6+ £17.50 

Mae pris y tocyn yn cynnwys ffi weinyddol o £2 ac ardoll theatr o £1.50.

Ocean Film Festival montage 2026