Dear Evan Hansen
Dydd Iau 1 Hyd 2026, 7:30pm - Dydd Sadwrn 3 Hyd 2026, 7:30pm yn Theatr Colwyn
Mae’n bleser mawr gan RADMTC gyflwyno ‘Dear Evan Hansen’
Mae Dear Evan Hansen yn sioe gerdd gyfoes emosiynol a phwerus sy’n archwilio cysylltiad, hunaniaeth, a’r awydd cyffredinol i berthyn.
Mae Evan Hansen yn ddisgybl ysgol uwchradd sy’n orbryderus yn gymdeithasol, ac mae bob amser wedi teimlo’i fod yn anweledig. Pan fo camddealltwriaeth yn troi’n rhywbeth llawer mwy, na fyddai fyth wedi ei ddychmygu, mae Evan yn ei ganfod ei hun yng nghanol stori sy’n dod ag o’n agosach at bopeth mae wedi bod ei eisiau erioed: cyfeillgarwch, derbyniad, a chariad. Ond wrth i’r gwir ddod yn anos i’w guddio, mae’n rhaid i Evan wynebu canlyniadau’r dewisiadau a wnaeth.
Mae sgôr ardderchog i’r sioe gerdd ddirdynnol ac ysbrydoledig hon, sy’n cynnwys y caneuon eiconig ‘Waving Through a Window’ ac ‘You Will Be Found’; ac mae hefyd wedi ennill Gwobr Olivier a Tony.
Mae Dear Evan Hansen yn ein hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain, hyd yn oed ar yr adegau tywyllaf.
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Yn dechrau
- 1 Hydref 2026
- Diwedd
- 3 Hydref 2026
- Hyd
- 135 mins
- Lleoliad
- Theatr Colwyn Cyfarwyddiadau
- Categori
- Sioe Gerdd