Queen of the Night - A Tribute to Whitney Houston

Queen of the Night - A Tribute to Whitney Houston

Archebwch nawr

Mae Queen Of The Night – A Tribute to Whitney Houston yn dychwelyd yn 2026 am ddathliad gwych arall, yn dilyn teithiau ledled y DU sydd wedi gwerthu pob tocyn, gan gynnwys taith arenâu a lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a’r London Palladium.

Mae wedi ennill ei phlwyf fel teyrnged fwyaf y DU i Whitney Houston, ac mae'r cynhyrchiad syfrdanol hwn yn anrhydeddu cerddoriaeth, bywyd a thalent heb ei ail Whitney Houston. Dewch i ddathlu casgliad cerddorol nodedig Whitney Houston mewn cynhyrchiad gwefreiddiol sy’n anrhydeddu ei chaneuon oesol â chantorion anhygoel a band byw llawn. Cewch eich swyno â gwerth tair degawd o hen ffefrynnau gan gynnwys I Wanna Dance With Somebody, One Moment In Time, I’m Every Woman, I Will Always Love You, My Love Is Your Love, So Emotional Baby, Run to You, Saving All My Love, How Will I Know, Million Dollar Bill, The Greatest Love Of All, a llawer iawn mwy. Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy yn llawn cerddoriaeth fyw, coreograffi hudolus a lleisiau pwerus, wrth i ni dalu teyrnged i frenhines y nos.


Sylwer mai sioe deyrnged yw hon, heb unrhyw gysylltiad ag Ystâd Whitney Houston.

 


 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event