Ymunwch â Jennifer Rees, y darlithydd sy’n arbenigo ar faterion fforensig, i archwilio un o’r pynciau mwyaf annifyr ym maes Seicoleg Fforensig.
Yn ystod y sgwrs hon, byddwch yn darganfod sut mae llofruddion cyfresol yn cael eu diffinio. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng llofruddion chwant fel llofrudd clymu, arteithio a lladd a llofruddion gweledigaethol fel David Berkowitz (Son of Sam)?
Bydd Jennifer yn edrych ar y gwahanol gategorïau gan ddefnyddio astudiaethau achos. Bydd hi hefyd yn chwalu rhai camsyniadau cyffredin am lofruddion cyfresol – efallai y cewch eich synnu gyda’r hyn a ddysgwch!
Fe fydd Jennifer yn trafod y gwahaniaethau nodweddiadol rhwng llofruddion cyfresol gwrywaidd a benywaidd, eto gan ddefnyddio astudiaethau achos i egluro. Byddwch hefyd yn edrych ar ffenomenon y cyplau sy’n llofruddion fel Fred a Rose West a’r ‘Moors Murderers’ sef Ian Brady a Myra Hindley, yn ogystal ag archwilio syndrom y Folie à deux a elwir hefyd yn ‘seicosis ar y cyd’.
Pam mae merched yn syrthio mewn cariad â llofruddion cyfresol? Fe fydd Jennifer yn trafod y wybodaeth glinigol yn ymwneud â pham mae llofruddion cyfresol yn denu edmygwyr, post gan gefnogwyr a hyd yn oed gŵr neu wraig yng ngoleuni eu troseddau erchyll.
Dysgwch am Hybristophilia ac achos syfrdanol y ‘Night Crawler’. Pa mor gyffredin yw ffantasïau llofruddiol? Ydych chi erioed wedi creu ffantasi am ladd rhywun?
Efallai y cewch eich synnu gan ganlyniadau’r ymchwil! Adnabod John a Jane Doe – sut caiff dioddefwyr eu hadnabod? Fe fyddwch yn gweld fideo rhyfeddol yn dangos adluniad wyneb ar benglog corff wedi’i ddarganfod.