Midge Ure 'A Man of Two Worlds' Tour

Midge Ure 'A Man of Two Worlds' Tour

Aelodaeth Premier

Mae’r cerddor, cynhyrchydd a phrif leisydd Ultravox, Midge Ure yn dod a’i sioe arloesol,  A Man Of Two Worlds i Venue Cymru, Llandudno ar 26 Tachwedd.

Mae’r cysyniad byw, beiddgar newydd yn cynnig profiad cyngerdd gwbl bersonol i’r cefnogwyr. Am y tro cyntaf, bydd Ure yn cyfuno ei ganeuon eiconig a phoblogaidd gydag offerynnau atmosfferig sydd wedi cael eu cynnwys ar ei albymau unigol ers tro - gyda nifer ohonynt heb gael eu perfformio’n fyw o’r blaen. Y canlyniad yw sioe gyfoethog wedi’i ddylunio i fynd a’r gynulleidfa ar siwrnai emosiynol, yn weledol ac o ran sain.

O’i ddyddiau cynnar gyda Slik a The Rich Kids, i ddiffinio sain yr 80au gydag Ultravox a chyd-greu’r sengl elusennol fyd-eang Do They Know It’s Christmas?, mae Midge Ure wedi herio disgwyliadau cerddorol drwy’r amser. Gyda gwobrau Ivor Novello, Grammy a BASCAP o dan ei gap, mae’n parhau i wthio’r ffiniau gyda’r sioe newydd uchelgeisiol.

Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi noson hynod o unigryw sy’n pontio degawdau o greadigrwydd - set fyw a gaiff ei pherfformio, ei churadu a’i phlethu ynghyd i un naratif bythgofiadwy.

 

Premier: Gwe 15 Mai, 10am  |  On-sale: Llun 18 Mai, 10am

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event