Hairspray the Musical
-

Hairspray the Musical

-
Archebwch nawr

Mae SIOE GERDD FAWR, FEIDDGAR A HYFRYD HAIRSPRAY AR DAITH UNWAITH ETO! 

Yn serennu bydd seren Strictly Come Dancing Joanne Clifton (Shrek the Musical, The Addams Family) fel Velma von Tussle sy’n ffyrnig ond yn wych. Yn cyfarwyddo am y tro cyntaf bydd Brenda Edwards (Hairspray, We Will Rock You) a fydd yn dod ag egni newydd o’r tu ôl i’r llenni. 

Roedd Hairspray yn llwyddiant ysgubol yn Broadway, gan ennill 8 o wobrau Tony. Aeth y cynhyrchiad ymlaen i ennill 4 o wobrau Olivier yn y West End, a nifer o wobrau yn fyd-eang. Mae’r clasur i godi calon yn ôl.

Yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd theatr cerdd, Welcome to the 60s, You Can’t Stop the Beat, Good Morning Baltimore a llawer mwy. Hairspray yw’r sioe gerdd ddoniol, ysbrydoledig, llawn hwyl ar gyfer pawb!

Ymunwch â Tracy Turnblad a’i ffrindiau newydd, Seaweed a’i chwaer Little Inez, y golygus Link Larkin a Maybelle wrth iddynt ymdrechu i newid y byd. Mae Hairspray wedi hudo cynulleidfaoedd yn y West End a Broadway ac yn parhau i gael effaith gyda’i neges o oddefgarwch a’r frwydr yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil. 

Mae’r sioe llawn hwyl yn cynnwys caneuon gwych a dawnsio anhygoel, dewch i ymuno â ni! 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event