Gyda’i sioe wych lwyddiannus, sydd wedi cael canmoliaeth uchel, mae’r seryddwr a’r awdur Adrian West (neu VirtualAstro), yn cyflwyno profiad gweledol gogoneddus sy’n procio’r meddwl i bawb sy’n edrych i fyny ac yn rhyfeddu.
NID OES ERIOED Y FATH HWYL WEDI’I GAEL GYDA’R BYDYSAWD!
Gan ddefnyddio effeithiau gweledol sgrin fawr anhygoel. Bydd The Night Sky Show yn mynd a chi ar daith wych ac epig ar draws y cosmos o’n hiard gefn nefolaidd.
Noson i unrhyw un sydd eisiau chwerthin, dysgu a mwynhau.
Perfformiad hwyliog, difyr a chofiadwy, a fydd yn eich helpu i ddeall a mwynhau’r ffurfafen uwchben a thu hwnt.
Sioe i bawb heb unrhyw wyddoniaeth ddofn na difrifol. Caiff ffuglen a ffaith wyddonol eu cyfuno a'u cyflwyno mewn ffordd hawdd a difyr.
NOSON I’W CHOFIO YNG NGWIR YSTYR Y GAIR
Profiad theatrig ysblennydd i bawb. Siwrnai o amgylch y cytserau, y sêr, y planedau a mwy. Gyda theithiau difyr, straeon, a phosibiliadau diddiwedd ein dyfodol gydag awyr y nos a thu hwnt.
Cyflwynir gan Adrian West - Seryddwr, cyflwynydd ac awdur angerddol a phrofiadol. Yn fwy adnabyddus fel VirtualAstro ar gyfryngau cymdeithasol. Mae ganddo un o'r cyfrifon annibynnol mwyaf ar Twitter ym maes seryddiaeth a’r gofod.
Mae Adrian wedi ysgrifennu erthyglau yn ymwneud â seryddiaeth a’r gofod ar gyfer cylchgronau gwyddoniaeth poblogaidd ar-lein ac yn fwy diweddar, ei lyfr newydd - The Secret World of Stargazing. Mae hefyd wedi ysgrifennu canllawiau ac erthyglau ar gyfer y BBC, y Swyddfa Dywydd a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i enwi dim ond rhai.
Os ydych chi’n un sy’n edrych i fyny a rhyfeddu, byddwch yn siŵr o fwynhau The Night Sky Show.