Nathan Carter

Nathan Carter

Book now

Mae wedi gwerthu mwy o albymau na rhai fel Beyoncé yn Iwerddon, wedi perfformio i’r Pab, llenwi theatrau ac arenâu ar draws y byd; ac mae’n un o’r artistiaid sydd wedi teithio fwyaf yn y DU. Rŵan, wrth iddo ryddhau ei albwm newydd ‘Music Man’, mae diddanwr mwyaf Iwerddon, Nathan Carter, wedi cyhoeddi taith newydd sbon o amgylch y DU yn 2026!

Wedi’i eni yn Lerpwl i rieni o Swydd Down yn Iwerddon, mae Nathan Carter wedi rhyddhau 13 albwm stiwdio a 6 albwm fyw, gyda sain sy’n cyfuno pop, gwerin Gwyddelig, canu gwlad a baledi oesol.

Wedi’i lwyddiant enfawr gyda thraciau fel ‘Wagon Wheel’ ac ‘I Wanna Dance’, mae’n un o artistiaid mwyaf Iwerddon, sydd wedi gwerthu mwy o recordiau nag One Direction, Pharell Williams a Michael Bublé. Fo hefyd oedd yr act canu gwlad gyntaf o Iwerddon i gyrraedd rhif 1 yn siartiau Iwerddon yn 2013 ar ôl Garth Brooks, chwe blynedd cyn hynny. 

Ar ei albwm newydd, ‘Music Man’, mae 11 o draciau yn cynnwys y sengl hynod lwyddiannus ‘Dance with Everybody’ a’r gân newydd ‘Dear Elizabeth’.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event