Mike Oldfield's Tubular Bells - Dathliad 50 mlynedd

Mike Oldfield's Tubular Bells - Dathliad 50 mlynedd

Book now

I ddathlu hanner can mlwyddiant Tubular Bells, bydd y campwaith eiconig yn cael ei berfformio’n fyw gyda band llawn yn Venue Cymru y gwanwyn nesaf, wedi’i arwain a’i drefnu gan gydweithiwr hirdymor Oldfield, Robin Smith.

Tubular Bells oedd albwm stiwdio gyntaf yr aml-offerynnwr, cyfansoddwr ac ysgrifennwr caneuon o Loegr, Mike Oldfield, a luniwyd yn 1971 ac a ryddhawyd o'r diwedd yn 1973. Dim ond 17 oed oedd Oldfield pan ddechreuodd gyfansoddi’r gerddoriaeth ac ef a recordiodd yr albwm a sy’n chwarae’r rhan fwyaf o’r offerynnau arni. Enillodd yr albwm glod ar draws y byd pan ddefnyddiwyd y gerddoriaeth agoriadol ar gyfer trac y ffilm arswyd ‘The Exorcist’ a dyma’r albwm offerynnol sydd wedi gwerthu orau erioed.

Yn asiad mentrus a blaengar, mae Tubular Bells yn daith drwy gerddoriaeth glasurol, jazz, gwerin, roc blaengar ac electronica. 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event