Ymunwch â ni am noson wych, wrth i ni ddathlu cerddoriaeth anhygoel y BRENIN POP.
Dyma’r “Man in the Mirror” - y cyngerdd teyrnged newydd i Michael Jackson y dalai pawb ei weld.
Gyda CJ, un o artistiaid teyrnged Michael Jackson gorau’r byd, wedi’i gefnogi gan gast dawnus o berfformwyr a cherddorion sy’n cipio gwir deimlad arddull a charisma unigryw Michael Jackson, yn y cynhyrchiad gwych hwn a fydd yn eich cadw ar flaen eich seddi.
Yn cynnwys ei holl ganeuon gorau yr ydych yn ei caru, “Thriller,” "Billie Jean," "Beat It," "Smooth Criminal," ac wrth gwrs, "Man in the Mirror." Ynghyd â choreograffi syfrdanol, effeithiau gweledol gwych, sioe oleuadau a gwisgoedd unigryw. Dyma’r sioe sy’n talu teyrnged i etifeddiaeth gerddorol Jackson.
Felly, os ydych chi’n ffan gydol oes neu’n profi hud Michael Jackson am y tro cyntaf, byddwch yn barod wrth i ni eich tywys yn ôl mewn amser, am noson heb ei thebyg.
Newydd sbon gan gwmni Entertainers.