Magic Men

Magic Men

Archebwch nawr

Mae Magic Men wedi gwerthu dros 1 miliwn o docynnau ledled y byd — a nawr, mae’r noson allan fwyaf ar gyfer merched yn dod i’ch ardal chi. Yn wyneb ac yn ganolbwynt i’r sioe mae'r seren ryngwladol Will Parfitt, sydd â pherfformiadau eiconig sydd wedi cael eu gwylio dros 2 biliwn o weithiau ar TikTok, gan ei wneud yn ffenomenon byd-eang go iawn. 

Ar ôl torri record gwerthiannau tocynnau a llenwi arenâu ledled Ewrop, mae Magic Men yn dod i’r DU gyda'u cynhyrchiad mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn - beiddgar, egnïol a chwbl ddi-flewyn-ar-dafod. Mae'r sioe fyd-enwog hon wedi'i chynllunio i daro'n galetach, mynd yn ddyfnach ac yn boethach nag unrhyw beth yr ydych  erioed wedi'i brofi. 

Yn adnabyddus am berfformiadau gwyllt, cywirdeb miniog a phresenoldeb llwyfan hudolus, nid yn unig y mae'r sêr hyn o Awstralia yn diddanu - maen nhw’n tynnu’r gynulleidfa i mewn i’r perfformiad (ac ar y llwyfan). Nid sioe yn unig yw Magic Men - ond parti! 

Un noson. Un sioe. Un profiad bythgofiadwy.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event