Mae gŵyl gerddoriaeth newydd sbon Conwy wedi cyrraedd!
Bydd Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt.
Bydd y digwyddiadau am ddim ac am bris gostyngol gyda chyfle i roi / talu fel y dymunwch.
Mae Hazel Mary, sy’n chwarae nifer o offerynnau, yn perfformio yn amgylchedd hyfryd Eglwys y Santes Fair, wedi’i goleuo gan ganhwyllau.
A hithau’n hanu o Lundain, mae Hazel Mary wedi gwneud Conwy yn gartref iddi – mae’n wyneb cyfarwydd, boed hynny yn gweithio y tu ôl i’r bar yn y dafarn leol am 7 mlynedd neu’n chwarae mewn lleoliadau lleol. Cafodd ei hyfforddi’n glasurol ar y soddgrwth a’r piano, ac erbyn hyn mae’n astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Rhoddodd bleser mawr i gynulleidfa Gŵyl Gerddoriaeth Glasurol Conwy eleni gyda datganiad ar y soddgrwth, a oedd yn cynnwys ei chyfansoddiad ei hun. Ond mae’r un mor gyfforddus yn pontio’r genres cerddorol, ar ôl bod yn gantores a chyfansoddwr gyda gitâr yn ei hugeiniau, hyd yn oed yn ymgorffori’r dwlsimer. Felly, mae Gŵyl ‘Winter Sounds’ gyntaf Conwy yn dechrau gydag un o’i doniau mabwysiedig ei hun, sy’n caniatáu i ni glywed ei llais anhygoel, sydd, yn debyg i’w phrif ddylanwad – Joni Mitchell – yn gallu cyffwrdd y galon.