Mewn sioe newydd sbon o’r enw Francis Rossi ‘Songbook: Quo – Past, Present, Future’ mae un o gerddorion enwocaf a mwyaf dylanwadol Prydain yn mynd ar daith o dros 30 o ddyddiadau rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2026.
Bydd y sioeau Francis Rossi ‘Songbook: Quo – Past, Present, Future’, wrth gwrs, yn cynnwys detholiad o nifer o glasuron bythol boblogaidd Francis a Status Quo, ambell un i’r dilynwyr mwyaf brwdfrydig; ac mae hefyd yn gweithio ar gân newydd neu ddwy. Y daith hon ydi’r unig le i glywed dewisiadau a dehongliadau Francis o’i gatalog anhygoel, gyda’r fantais ychwanegol o gael clywed rhywfaint o sylwadau a straeon gan y dyn ei hun.
Dywedodd Francis Rossi, “Mae’n bryd gafael ynddi unwaith eto, gan fy mod i wedi creu sioe newydd llawn dop ar gyfer yr hydref eleni. Fe fydda’ i’n cadw llwyth o’r caneuon mwyaf poblogaidd yn y set, wrth gwrs, ond hefyd yn cynnwys ambell un annisgwyl. Mae’r sioeau theatr yma’n ffordd wych o gael cyswllt go iawn gyda’r gynulleidfa, a rhoi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol”.
Yn ymuno â Francis Rossi unwaith eto ar y daith hon fydd y gitarydd Andy Brook, a gyd-gynhyrchodd yr albwm fawr ei chlod a gafodd ei rhyddhau yn 2026, The Accidental, gyda Francis, ac a ymunodd ar y daith ‘Songbook’ yn 2025, pan werthwyd pob tocyn.
Mae Taith Francis Rossi ‘Songbook: Quo – Past, Present, Future’ 2026 yn gyfle gwych i’w ddilynwyr glywed sawl un o’r hen ffefrynnau gan un o gyfansoddwyr caneuon gorau’r byd roc, ac ambell berl annisgwyl. Mae’n daith drwy yrfa arbennig artist cwbl unigryw.