Pan fo Riverdance a Stomp yn gwrthdaro, bydd storm!
Yn syth o’r West End, Emerald Storm yw’r sioe ddawns newydd a thrydanol sy’n serennu Adam Garcia a Tom Ball.
Adam Garcia (Coyote Ugly, Saturday Night Fever) sydd wedi cynhyrchu’r sioe ac mae’n serennu ynddi am y tro cyntaf gan arwain y cynhyrchiad arbennig hwn sy’n cyfuno tân dawnsio Gwyddelig gyda dewrder tap trefol mewn noson wych o rhythm ac ysblander.
Bydd Tom Ball, a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent, yn perfformio’n fyw ac mae’r sioe yn cyfuno dawns, cerddoriaeth a llais yn un profiad cyffrous i ymgolli ynddo.
Mae Emerald Storm yn herio confensiwn ac ailddychmygu traddodiad gan ddarparu symudiadau traed anhygoel, coreograffi manwl gywir ac agwedd feiddgar, gyfoes. Gyda chwmni o ddawnswyr o’r radd flaenaf a cherddorion byw, dyma brofiad theatrig cyflym, llawn rhythm, o’r dechrau i’r diwedd.