Senbla yn cyflwyno Taith Opera Ffarwel Ellen Kent
Ellen Kent Opera: La Traviata
gydag Opera Ryngwladol Kyiv, Wcráin
Mae Senbla yn cyflwyno ‘Ellen Kent’s Farewell Opera Tour’ gydag Opera Ryngwladol Kyiv, Wcráin, ac unawdwyr uchel eu clod a cherddorfa lawn.
Y stori garu fu mor boblogaidd ym Mharis
Stori drist am serch tanbaid a cherddoriaeth gofiadwy, La Traviata yw dehongliad anhygoel Verdi o un o straeon serch mwyaf poblogaidd yr 19eg ganrif, ‘La Dame aux Camelias’.
Yn seiliedig ar stori wir, mae’n adrodd hanes bywyd a chariadon Violetta, putain llys a fu’n dioddef o’r diciâu. Mae stori Traviata yn adleisio bywyd Verdi ei hun a bu iddo ymdaflu i’r gerddoriaeth. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys y ‘Brindisi’, y gân yfed enwocaf ym myd opera, deuawd ‘Un Di Felice’ ac aria hiraethus Violetta, ‘Addio Del Passato’. Mae setiau a gwisgoedd godidog yn y cynhyrchiad arbennig hwn.
Wedi’i chyfarwyddo gan Ellen Kent.