Dod â Grŵp

Os ydych chi’n grŵp o 10 neu fwy, mae archebu gyda Venue Cymru yn hawdd iawn.

Pa un ai ydych chi’n ysgol, gweithle, clwb neu'n grŵp o ffrindiau, fe allwch chi fanteisio ar ein gostyngiadau a’n cynigion arbennig ar gyfer grwpiau.

Manteision i Grwpiau

  • Tocynnau rhatach ar gyfer y rhan fwyaf o’n sioeau
  • Llinell ffôn a chyfeiriad e-bost arbennig: 01492 872001 / grwpiau@venuecymru.co.uk
  • Cyfnodau cadw hirach
  • Taflenni a phosteri am ddim
  • Cyfraddau arbennig ar gyfer ysgolion a cholegau, gan gynnwys 1 tocyn athro am ddim i bob 10 tocyn a archebir
  • Gallu archebu teithiau theatr / arlwyo / hufen iâ ymlaen llaw
  • Bwyd yn Y Review cyn y sioe

Mae ein tîm ymroddedig wrth law, ddydd Llun i ddydd Gwener, i'ch cynorthwyo chi ar bob cam o'r broses archebu. I ddarganfod mwy, ffoniwch 01492 872001 neu anfonwch e-bost i grwpiau@venuecymru.co.uk.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event