Dreamgirls
-

Dreamgirls

-
Archebwch nawr

Canwch o’ch enaid gyda sioe wobrwyol ac arbennig DREAMGIRLS yn Venue Cymru yn 2022!  

Yn syth o’r West End gyda stori eithriadol a’r lleisiau bythgofiadwy, iasol sy’n gyrru cynulleidfaoedd yn wyllt, mae’r cynhyrchiad cerddorol arbennig hwn yn cynnwys y clasuron And I Am Telling You I’m Not Going, Listen, I Am Changing a One Night Only.

Cewch gyfarfod The Dreams – Effie, Lorrell a Deena – tair cantores ifanc dalentog yng nghythrwfl y 1960au, adeg chwyldroadol yn hanes cerddoriaeth America. Ymunwch â’r tair ffrind wrth iddynt gychwyn ar siwrnai gerddorol llawn troeon trwy fyd enwogrwydd, ffortiwn a gwirionedd anhrugarog y busnes perfformio, a fydd yn profi eu cyfeillgarwch i’r eithaf.

Photos of UK Tour company by Matt Crockett. © Dreamgirls UK Tour 2021
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event